The Prince of Wales and The Duchess
of Cornwall

The Duke and Duchess of Cambridge

Prince Harry

Open

Arwisgiad a Theitl Y Tywysog

Tywysog presennol Cymru yw'r 21ain i ddal y teitl.

Fe gafodd y teitl 'Tywysog Cymru' ei greu yn 1301, pan wnaeth Edward I ei fab – a ddaeth yn Edward II – yn Dywysog Cymru. Mae'r teitl wedi'i fwriadu ar gyfer etifedd eglur gwrywaidd yr orsedd, ond dydi'r olyniaeth ddim yn awtomatig. Y Brenin neu'r Frenhines sy'n dewis adnewyddu'r teitl.

Fe gafodd Tywysog presennol Cymru ei eni ym Mhalas Buckingham ar 14 Tachwedd 1948. Fe gafodd ei fedyddio'n Charles Philip Arthur George. Pan ddaeth Brenhines Elizabeth i'r Orsedd yn 1952, fe ddaeth Tywysog Charles yn etifedd eglur. Fe ddaeth hefyd yn Ddug Cernyw, dan siarter a wnaeth Brenin Edward III yn 1337.

O dan drefn Urddolaeth Yr Alban, fe ddaeth yn Ddug Rothesay, Iarll Carrick a Barwn Renfrew, Arglwydd yr Ynysoedd, a Thywysog a Phen Stiward Yr Alban.

Ni chafodd ei greu'n Dywysog Cymru ac Iarll Caer tan 1958 pan oedd yn 9 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Cheam yn Berkshire. Fe gafodd y cyhoeddiad ei wneud yn ystod seremoni cau Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad yng Nghaerdydd, ar 27 Gorffennaf 1958.

Fel rhan o'r broses o baratoi ar gyfer ei Arwisgo'n Dywysog Cymru, fe dreuliodd Ei Uchelder Brenhinol dymor yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn astudio Cymraeg a hanes Cymru.

Fe gafodd y Tywysog ei arwisgo'n ffurfiol yn Dywysog Cymru ar 1 Gorffennaf 1969, yng Nghaernarfon. Roedd yn 20 oed.

Roedd llawer o atseiniau hanesyddol i seremoni'r arwisgo. I raddau helaeth Arglwydd Eryri, Cwnstabl y Castell, oedd yn cyfarwyddo'r seremoni. Fe wnaeth Y Frenhines arwisgo Tywysog Charles ag Arwyddnodau'i Dywysogaeth ac Iarllaeth Caer: cleddyf, coronig, mantell, modrwy aur a rhoden aur.

Ymateb ffurfiol y Tywysog oedd: "I, Charles, Prince of Wales, do become your liege man of life and limb and of earthly worship and faith and truth I will bear unto you to live and die against all manner of folks."

Fe ddarllenodd Syr Ben Bowen Thomas, Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, anerchiad ffyddlon mewn Cymraeg a Saesneg gan bobl Cymru.

Yn ei anerchiad, fe ddywedodd y Llywydd bod y Dywysogaeth yn edrych ymlaen at gyfnod pan fyddai'r Tywysog yn cysylltu'i hun yn bersonol â'i thraddodiadau a'i hiaith, ei dyheadau a'i phroblemau. "Yn yr ysbryd hwn o hyder a gobaith, yr ydym yn ei gyfarch ac yn datgan ein teyrngarwch."

Fe atebodd Tywysog Cymru yn Gymraeg a Saesneg. Yn rhan Gymraeg ei araith, fe ddywedodd mai ei fwriad pendant oedd ei gysylltu'i hun â chymaint o fywyd y Dywysogaeth ag sy'n bosib.

Fe ddywedodd: "'Roeddwn i'n teimlo cryn dipyn o falchder ac emosiwn wrth dderbyn y symbolau hyn o'm swydd yn y gaer odidog hon. Lle ni allai neb beidio â theimlo rhyw gyffro yn awyrgylch ei gwychder hynafol. Ni fedrwn innau, chwaith, lai na bod yn ymwybodol o hanes maith Cymru a'i phenderfyniad i barhau ar wahân ac i warchod ei threftadaeth arbennig ei hun – treftadaeth sy'n mynd yn ôl i niwloedd hen hanes y Brython, ac sydd wedi cynhyrchu cymaint o ddewrion, tywysogion, beirdd, ysgolheigion ac, yn ddiweddarach fyth, gantorion enwog, 'Goon' cofiadwy iawn, a sêr amlwg ym myd y ffilmiau. Fe ysbrydolwyd pob un o'r bobl hyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, gan y dreftadaeth hon."

Gan siarad yn Saesneg, dywedodd Y Tywysog ei fod yn benderfynol o geisio cyflawni holl ofynion ei waith fel Tywysog Cymru. Fe ychwanegodd: "Rydw i'n siwr o un peth. Mae gofyn i Gymru edrych ymlaen heb gefnu ar y traddodiadau a'r agweddau hanfodol eraill ar ei gorffennol. Fe all y gorffennol ysgogi'r dyfodol lawn cymaint ag unrhyw beth arall."

Ar ôl gwasanaeth grefyddol fer yn y ddwy iaith, fe arweiniodd Y Frenhines Dywysog Cymru at Borth Y Frenhines Elinor sy'n edrych allan dros Faes Castell Caernarfon. Fe gyflwynodd hi'r Tywysog i'r dorf.

Related News

More news