Bob blwyddyn, y mae Duges Cernyw yn ymweld â Chymru yn rheolaidd ac yn gwneud gwaith elusennol, wrth gefnogi ei gŵr, Tywysog Cymru, yn ei waith fel Etifedd y Goron.
Y mae Ei Huchelder Brenhinol yn ymweld â Chymru yn rheolaidd gyda’i gŵr ac yn unigol ar gyfer gwaith swyddogol ynghyd â cymryd rhan yn Wythnos Cymru bob haf.
Yn 2012, wrth gynnal eu hwythfed taith haf flynyddol yng Nghymru, fe gyflawnodd y Tywysog a’r Dduges ddeunaw o ymweliadau gan gefnogi diwydiant twristiaeth Cymru, busnesau bychain, mentrau gwledig a chynaladwyedd.
Yr oedd yr ymweliadau yn cynnwys: ymweld â marchnad ffermwyr yn Aberaeron; mynychu gwasanaeth diolchgarwch yng Nghadeirlan Llanelwy yn Sir Ddinbych er mwyn dathlu rhoi statws ddinas i’r gymuned; ymweld â chanolfan bwyd fferm Bodnant yn Nyffryn Conwy; a chwrdd â phobl yng Ngheredigion a ddioddefodd gyda llifogydd diweddar, ac â’r gwasanaethau brys a’r mudiadau eraill a gynorthwyodd gyda’r gwaith achub.
Aeth Eu Huchelderau Brenhinol ar y cyd i fynychu digwyddiad yng Nghadeirlan Aberhonddu i nodi llwyddiant cronfa apêl, ac fe aeth Dduges Cernyw ymlaen i ymweld â gwirfoddolwyr ar Gamlas Brycheiniog a Mynwy er mwyn nodi ei dauganmlwyddiant. Ymhlith ei gweithgareddau unigol eraill yr wythnos honno, fe gynhaliodd y Dduges dderbyniad yn Llwynywermod ar gyfer plant a rhieni hosbis Ty Hafan yn Ne Morgannwg.
Y mae Duges Cernyw yn Noddwr neu’n Llywydd ar nifer o elusennau sy’n gweithredu yng Nghymru.
Fel Llywydd Barnardo’s, ym mis Mehefin 2010, aeth Ei Huchelder Brenhinol i weld Canolfan Deuluol y Caban Bach yn Rhes Meirion, Blaenau Ffestiniog sy’n darparu nifer o wasanaethau i’r gymuned leol.
Y mae Ei Huchelder Brenhinol hefyd yn Llywydd ar Maggie’s Cancer Caring Centres a agorodd eu canolfan bwrpasol newydd gyntaf yn Abertawe. Y mae cynlluniau ar y gweill i agor canolfan yng Nghaerdydd yn y dyfodol.
Daeth y Dduges yn Noddwr ar Gerddorfa Ieuenctid Caerfyrddin Patron yn 2010 ac mae hi wedi bod yn Noddwr y Ymddiriedolaeth Gardd Ffisig y Bontfaen, ym Mro Morgannwg ers 2008.
Y mae gan y Dduges rai cysylltiadau cryfion eraill yng Nghymru nad ydynt yn ymwneud â’i safle fel noddwr. Ymhlith y rhai amlycaf yn hyn o beth yw’r elusen ganser plant LATCH (Llandough Aims to Treat Children with Cancer and Leukaemia with Hope) a Thŷ Hafan, sy’n darparu gofal ar gyfer plant sydd â chlefydau sydd yn cwtogi bywyd ac sydd yn gofalu am eu teuluoedd hefyd.
Portffolio cynyddol arall ymlith gwaith y Dduges yw maes dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhywiol. Yn 2011, fe aeth hi i ymweld â chanolfan sydd yn delio gydag achosion o ymosodiadau rhywiol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Cartref swyddogol Eu Huchelderau Brenhinol yng Nghymru yw Llwynywermod, Myddfai, ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r ystad yn cynnwys tua 192 acer, y mae 150 acer ohono’n borfa a pharc, a thua 40 acer yn goetir. Yn ogystal â bod yn gartref swyddogol, fe ddefnyddir y bwthyn i gynnal cyfarfodydd a derbyniadau rheolaidd yno ar gyfer llawer o elusennau’r Tywysog a’r Dduges.
Y mae Ei Huchelder Brenhinol wedi cynnal llawer o’r derbyniadau hyn, gan gynnwys rhai ar gyfer Sefydliad y Merched a Maggie’s.
Yn 2012, gwahoddwyd plant o Dŷ Hafan gan y Dduges i gael te yng nghartref Cymreig Eu Huchelderau Brenhinol.
Y mae Eu Huchelderau Brenhinol hefyd yn aml yn cynnal derbyniadau gyda’r nos ar gyfer aelodau o’r gymuned leol yn y ffermdy yn Llwynywermod.
Related News
-
End Wildlife Crime conference
-
Help for Heroes
-
Sentebale at RHS Chelsea Flower Show
-
Stoke-on-Trent
-
Devon County Show
-
The Royal College of Music
-
London Mutual Credit Union
-
Sentebale Polo Cup
-
Rory McEwen exhibition
-
The GREAT Campaign
-
Prince Harry plays baseball in New York
-
The Royal Foundation dinner
-
Prince Harry attends the Warrior Games
-
Prince Harry launches the Warrior Games
-
Prince Harry in Washington
-
New conservation award
-
Arlington National Cemetery
-
Wattisham Army Air Corps visit
-
Maggie's Cancer Caring Centres
-
UKTI reception
-
Tropical Forest speech
