Sign up to our newsletter

Get the latest updates about Their Royal Highnesses including news, events and photos straight to your inbox

The Prince of Wales and The Duchess
of Cornwall

The Duke and Duchess of Cambridge

Prince Harry

Open

Gwaith Y Tywysog yng Nghymru

Mae'r Tywysog yn falch iawn o'i gyswllt â Chymru ac mae'n cymryd ei ddyletswyddau fel Tywysog Cymru o ddifri'. Gall Ei Uchelder Brenhinol olrhain ei linach yn ôl drwy'r Tuduriaid at Dywysogion gwreiddiol Cymru. O'r rheini, Tywysog ola' Cymru oedd yn frodor o'r wlad oedd Llywelyn ap Gruffydd (1246-82). Yn 1969, fe dreuliodd Tywysog Cymru un tymor yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i ddysgu Cymraeg, cyn cael ei arwisgo'n ffurfiol fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969.  Y mae’r Tywysog yn aml yn defnyddio ei wybodaeth o’r Gymraeg wrth agor a chloi areithiau yng Nghymru.

Gydol ei fywyd fel oedolyn, mae'r Tywysog wedi cynnal perthynas agos â Chymru. Yn wir, un o'r rhesymau dros ddewis Highgrove yn Swydd Gaerloyw fel cartre' ei deulu oedd y ffaith ei fod yn agos at Gymru.  Ers 2006 y mae ganddo gartref yng Nghymru ei hun, sef Llwynywermod, Myddfai, ger Llanymddyfri. Y mae’r ffermdy a’r adeiladau cyfagos wedi eu hadfer gyda deunyddiau Cymreig traddodiadol. Mae’r ystad yn cynnwys tua 192 acer, y mae 150 acer ohono’n borfa a pharc, a thua 40 acer yn goetir.    Y mae’r Tywysog a’r Dduges yn defnyddio Llwynywermod pan maen nhw yng Nghymru ar eu taith flynyddol bob haf ac ar eu hymweliadau rheolaidd eraill. Maen nhw’n cynnal cyfarfodydd a derbyniadau rheolaidd yno ar gyfer unigolion a sefydliadau lleol a chenedlaethol.

Mae Ei Uchelder Brenhinol wedi sefydlu dwy elusen sydd â'r bwriad o helpu pobl Cymru. The Prince's Trust Cymru a PRIME-Cymru yw'r ddwy elusen. Mae'r gynta'n helpu miloedd o bobl 18-30 oed i sefydlu'u busnesau'u hunain, a'r ail yn helpu cannoedd o bobl dros 50 oed i wneud yr un peth. Y mae rhai o elusennau eraill y Tywysog, megis Business in the Community, The Prince’s Regeneration Trust a The Prince’s Foundation for Building Community, hefyd yn weithgar yng Nghymru, lle mae’r Foundation, er enghraifft, yn helpu creu pentref trefol blaengar ar hen safle diwydiannol Coed Darcy ger Castell Nedd.

Mae'r Tywysog hefyd yn gweithredu fel Noddwr nifer o fudiadau allweddol sy'n gweithio i gadw a chefnogi diwylliant a threftadaeth Cymru. Ymysg y mudiadau mae: Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Ei Uchelder Brenhinol wedi gweithredu fel Canghellor Prifysgol Cymru er 1976 hefyd, ac y mae bellach yn Noddwr Brenhinol ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn ogystal, drwy Fenter Mynyddoedd y Cambrian, y mae Ei Uchelder Brenhinol wedi ceisio gwella economi cymunedau gwledig ucheldir Sir Gaerfyrddin, Powys a Cheredigion.

Drwy ei ymweliadau rheolaidd â Chymru, a thrwy waith ei Ysgrifennydd Personol Cynorthwyol, sydd â’i swyddfa yng Nghofrestrfa Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, y mae Ei Uchelder Brenhinol yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â digwyddiadau yn y Dywysogaeth.

Yn 2000, fe gafodd swydd Telynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ei hadfer. Y nod oedd dathlu a meithrin talentau cerddorol Cymru a gweddill y DU, a chodi proffil y delyn fel offeryn cerdd ac fel symbol o draddodiad cerddorol Cymru. Hannah Stone o Abertawe yn Ne Cymru yw'r delynores bresennol.

Fel aelodau eraill y Teulu Brenhinol, mae cyswllt personol agos gan Dywysog Cymru â'r Lluoedd Arfog.
Yn ogystal â'i wasanaeth ei hun gyda'r Lluoedd, mae'n gweithredu fel Prif Gyrnol sawl Llu.  Mae Tywysog Cymru'n cymryd rhan bob blwyddyn yn seremoni Cyflwyno'r Faner yn Horse Guards, Llundain, gan wisgo'i lifrai fel Cyrnol y Gwarchodlu Cymreig. Mae wedi gweithredu yn y swydd honno er 1975, y flwyddyn gynta' iddo farchogaeth yn y seremoni hynafol sy'n dathlu pen-blwydd swyddogol Y Frenhines.

Penodiad cynta' Ei Uchelder Brenhinol fel Prif Gyrnol oedd ar Gatrawd Frenhinol Cymru. Fe gafodd ei benodi i'r safle yna ar 1 Gorffennaf 1969, sef y diwrnod y cafodd ei arwisgo'n Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon.

Related News

More news