Latest Press Release
Clarence House yn awyddus i benodi ysgrifennydd preifat newydd i gymru
24th November 2011
Bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw’n penodi uwch-gynghorydd newydd ar gyfer eu gwaith yng Nghymru, yn sgil ymadawiad Dr Manon Williams ar ôl deuddeng mlynedd yn gwasanaethu’r teulu brenhinol.
Yr Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol yw’r uwch-gynghorydd ar Gymru yn Clarence House, ac mae hefyd yn trefnu a mynychu holl ymweliadau Eu Huchelderau Brenhinol â Chymru, ynghyd â drafftio areithiau, paratoi papurau briffio a delio â’r holl ohebiaeth gysylltiedig. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am o leiaf un arall o’r portffolios sy’n cynnwys y Deyrnas Unedig gyfan, a bydd yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio strategaeth ehangach bywyd cyhoeddus y Tywysog a’r Dduges. Bydd y swydd wedi ei lleoli yn Clarence House yn Llundain, ond bydd yr Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol hefyd yn cael parhau i ddefnyddio swyddfa yng Nghaerdydd.
Dywedodd cynrychiolydd Clarence House heddiw y bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd dda, profiad ymarferol o ddelio â phobl ar lefel uchel ac o ddelio â materion cymhleth, a gorau oll os yw’n siarad Cymraeg.
Daeth Dr Manon Williams i’r swydd yn 1994 yn y lle cyntaf, gan adael ar ôl pum mlynedd yn 1998 ond dychwelyd i’r Aelwyd unwaith eto yn 2004. Hi oedd Cadeirydd The Prince’s Trust Cymru rhwng 2001 a 2004. Bydd Manon yn gadael yr Aelwyd yn ystod haf 2012, gan symud yn ei blaen at heriau newydd yn y sector preifat.
Dywedodd William Nye, Prif Ysgrifennydd Preifat Tywysog Cymru a Duges Cernyw, heddiw:
“Bu Manon yn aelod gwerthfawr a chanolog o Aelwyd Tywysog Cymru am lawer o flynyddoedd. Nid yn unig yr oedd hi’n dod â dealltwriaeth reddfol o Gymru a diddordeb angerddol yn y wlad, ond mae hi hefyd yn gerddor medrus sydd wedi cynghori Ei Uchelder Brenhinol ar ei gefnogaeth i wahanol fudiadau yn y celfyddydau ac mewn nifer o feysydd eraill. Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, mae Manon wedi goruchwylio’r broses o gychwyn ymweliadau haf blynyddol y Tywysog a’r Dduges â Chymru, ac o sefydlu nifer o elusennau sy’n cynnwys yr ymddiriedolaeth adfywio The Prince’s Regeneration Trust, Menter Mynyddoedd Cambria, a’r ymddiriedolaeth The Great Steward of Scotland’s Dumfries House Trust, yn ogystal â’r broses o brynu Llwynywermod sef cartref y Tywysog ym Myddfai ger Llanymddyfri.”
