The Prince of Wales
Advanced Search

Press Releases

Clarence House

The Media Centre is aimed at helping print, broadcast and online media across the UK, the Commonwealth and worldwide.

Latest Press Release

Dr Manon Williams

Y Tywysog yn agor swyddfa yng nghymru

19th January 2010

Mae gan Dywysog Cymru bellach swyddfa ei hun yng Nghymru, lai na thair mlynedd ar ol prynu ty yn Sir Gaerfyrddin.

O’r wythnos hon ymlaen, fe fydd Dr Manon Williams - Ysgrifennydd Preifat y Tywysog a chyfrifoldeb arbennig dros Gymru - yn gweithio am ddeuddydd yr wythnos allan o swyddfa yng Nghaerdydd.

Yn gweithio gan fwyaf yn Clarence House yn Llundain o'r blaen, fe fydd Dr Williams bellach yn rhannu ei hamser rhwng Clarence House a'i swyddfa newydd yn Nghofrestrfa'r Brifysgol, Parc Cathays, Caerdydd. Fe fydd cynorthwy-ydd yn cael ei recriwtio cyn hir i weithio'n barhaol yng Nghymru.

Daw'r newyddion wrth i'r Tywysog adeiladu ar waith ei elusennau yng Nghymru, a gynhaliodd gynhadledd ar y cyd fis Medi diwethaf yn Llwynywermod, ffermdy'r Tywysog yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r elusennau wrthi bellach yn datblygu nifer o brosiectau a'r bwriad o ysgogi cynaladwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Mae lleoliad y swyddfa ym Mharc Cathays yn adlewyrchu'r diddordeb brwd sydd gan y Tywysog ym Mhrifysgol Cymru, fel ei Ganghellor. Mae'r Tywysog yn derbyn adroddiadau cyson ar waith y Brifysgol ac mae'n cynnal derbyniad blynyddol ar gyfer myfyrwyr. Llynedd, lansiodd y Tywysog Ysgoloriaethau Menter Tywysog Cymru, rhaglen flaengar gwerth £11.4m, wedi'i reoli gan y Brifysgol, sy'n annog y myfyrwyr gorau i weithio gyda busnesau ar brosiectau arloesol. Cyhoeddwyd yr ysgolheigion cyntaf ddoe.

Mae'r Tywysog, ynghyd a Duges Cernyw, yn ymweld yn rheolaidd a Chymru, gan ymgymryd a dyletswyddau swyddogol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y wythnos flynyddol yng Nghymru bob Haf. Mae'r Tywysog a'r Dduges hefyd yn ymweld a Llwynywermod yn aml yn breifat.

Pan nad yw'r Tywysog a'r Dduges yn bresennol, mae Llwynywermod yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gynadledda ar gyfer elusennau'r Tywysog ac mae yno fythynnod hefyd sy'n cael eu gosod i ymwelwyr.

Nodiadau i Olygyddion

Gweithiodd Dr Manon Williams i Dywysog Cymru fel Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol rhwng 1994 a 1998. Ar ol dychwelyd i'r swyddfa yn 2004 fel Dirprwy Ysgrifennydd Preifat, mae Manon bellach wedi ei dyrchafu'n Ysgrifennydd Preifat gyda chyfrifoldeb dros Gymru, yr Amgylchedd a'r Celfyddydau.

Prynwyd Llwynywermod ym Myddfai, Sir Gaerfyrddin, gan Ddugaeth Cernwy ym mis Mawrth 2007. Roedd Tywysog Cymru wedi bod yn awyddus ers cryn amser i gael cartref yng Nghymru. Defnyddir y ffermdy, sydd a thair ystafell wely, fel canolbwynt ymweliad blynyddol y Tywysog a'r Dduges i Gymru bob Haf. Maent hefyd yn ymwelwyr cyson ar adegau eraill o'r flwyddyn.

Mae'r eiddo yn cynnwys ysgubor sydd wedi ei addasu'n uned gynadledda i'w ddefnyddio gan elusennau'r Tywysog. Mae'r safle hefyd yn cynnwys ystafell ginawa fawr, lolfa, ac uned breswyl a thair ystafell wely. Mae hefyd breswylfa arall yn cynnig mwy o ystafelloedd gwely ar ochr orllewinol y safle. O dro i dro, pan nad yw'r eiddo yn cael ei ddefnyddio gan y Tywysog, ei deulu a'i elusennau, rhoir y bythynnod ar osod i aelodau o'r cyhoedd.


Recent Press Releases

View All

Search Press Releases