DYDD LLUN MEHEFIN 30AIN DYDD GWENER GORFFENNAF 4YDD 2014
"Dathlu Cymru heddiw, ddoe a'r dyfodol" yw thema ymweliad haf blynyddol Tywysog Cymru a Duges Cernyw eleni.
Rhyngddynt, bydd y Tywysog a'r Dduges yn agor Amgueddfa Treftadaeth Cwm Aber, yn ymweld a thref arobryn Brynbuga ac yn dathlu llwyddiant technoleg flaengar o Gymru.
Bob haf, y mae Eu Huchelderau Brenhinol yn treulio wythnos yn Llwynywermod, eu ffermdy Cymreig ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, ac yn ymweld â chyfres o wahanol ardaloedd yng Nghymru.
Bydd eu harhosiad yng Nghymru eleni yn cychwyn gydag ymweliadau â thri busnes teuluol Cymreig, sef cwmni bwyd Cnwd, ffatri Caws Cenarth a melin wlân Tregwynt, ill tri yn esiamplau eithriadol o fusnesau cynhyrchu sydd yn cynnig swyddi lleol.
Y mae Cwmni bwyd Cnwd, a leolir ger Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn creu bwydydd o safon uchel. Sefydlwyd y cwmni gan y cyn-chef, Scott Davis, sydd yn ymfalchio mewn defnyddio cynnyrch o gefn glad ac arfordir cyfagos Sir Gâr.
Hefyd yn y sector fwyd, y mae ffatri Caws Cenarth yn chwarae rhan flaenllaw yn nadeni'r grefft o greu caws Cymreig. Y mae caws arobryn y ffatri hon i gyd yn cael ei wneud â llaw, ac yn cael ei wwasgu mewn gweisg haearn-bwrw sydd bellach dros ganrif oed.
Melin wlân draddodiadol yw Melin Tregwynt yn Sir Benfro. Y mae wrthi'n addasu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn cyflogi rhyw 30 o bobl leol mewn gwaith cynhyrchu tecstiliau. Ar ôl gweld y felin a chwrdd â rhai prentisiau, bydd y Tywysog yn mynychu digwyddiad i ddathlu twf y diwydiant treftadaeth a thecstiliau yng Nghymru, a drefnir gan Creative Skillset Cymru.
Dathlu hanes cyfoethog Cymru fydd y Tywysog a'r Dduges wrth ymweld â Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, lle bydd cyfle iddynt weld drostynt eu hunain y Capel Galilea sydd newydd ei adfer ac sydd yn gartref i un o'r casgliadau pwysicaf o gerrig Celtaidd Cristnogol yn y Deyrnas Unedig. Wrth ymweld â gogoniannau Edwardaidd Ty a Gerddi Dyffryn, nepell i ffwrdd, bydd Ei Uchelder Brenhinol hefyd yn dathlu chwarter canrif Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, cymdeithas y mae ef yn Noddwr arni. Bydd wedyn yn teithio ymlaen i ffatri Sony ym Mhencoed, sydd wedi darparu cyflogaeth yn gyson i'r ardal am 40 mlynedd. Fe'i sefydlwyd wedi awgrym gan y Tywysog y dylai'r cwmni fuddsoddi yng Nghymru. Bellach mae'r ffatri unwaith eto'n flaengar iawn yn dechnolegol, ac yn cynhyrchu'r cyfrifiadur dyfeisgar maint-cerdyn 'Raspberry Pi'.
Yn y cyfamser, bydd Duges Cernyw yn ymweld â Chofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, fel rhan o ymgyrch elusen In Memoriam 2014, sydd yn marcio gyda 'SmartWater' gofebau rhyfel sydd mewn peryg o gael eu dwyn neu eu difrodi, cyn iddi ymgymryd â'i hymweliad cyntaf fel Noddwr Arthritis Research UK, yng Nghanolfan Biofecanyddol a Biobeirianneg Ysbyty Prifysgol, Caerdydd. Bydd Eu Huchelderau Brenhinol wedyn yn cynnal derbyniad yn Llwynywermod i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Y mae'r Tywysog yn Noddwr Brenhinol ar Wyl Dylan Thomas 100.
Talu teyrnged i orffennol glofaol Cymru fydd y Tywysog a'r Dduges wrth iddynt ymweld â Senghenydd lle byddant yn mynychu seremoni fer ac yn gosod torch wrth droed Cofeb Lofaol Genedlaethol Cymru, cyn agor Canolfan Dreftadaeth Cwm Aber. Y mae gan yr amgueddfa arddangosfeyrdd yn ymwneud â nifer o drychinebau glo, ynghyd â deunydd sydd yn dogfennu hanes ehangach Cymoedd y De.
Bydd tref arobryn Brynbuga yn croesawu Duges Cernyw wrth iddi ymweld â nifer o leoliadau sydd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth "Prydain yn ei Blodau 2014". Y mae'r gystadleuaeth, sydd yn dathlu ei hanner canmlwyddiant, ac sydd yn cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, wedi enwebu Brynbuga fel un o'r trefi yn rownd olaf y categori 'pentref mawr'. Bydd Ei Huchelder Brenhinol yn cwrdd â phlant ysgolion lleol, perchnogion busnesau ac aelodau o'r gymuned.
Fel Noddwr y Landmark Trust, bydd Tywysog Cymru yn ymweld â Llwyn Celyn, yng Nghrucornau Fawr, Sir Fynwy, sydd yn esiampl brin iawn o dy fferm o'r 15fed Ganrif hwyr. Fe ddaeth i ofal yr ymddiriedolaeth yn ddiweddar, ac mae wedi ei chategoreiddio fel adeilad Graddfa Un.
Yng Nghrughywel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd Tywysog Cymru yn cwrdd â John a Margaret Thomas, sydd yn cynhyrchu nifer o fathau o sudd afal ffermdy Cymreig organig. Bydd Tywysog Cymru yn gorffen yr ymweliad haf eleni yn Aberhonddu lle bydd yn gweld addurniadau mewnol ysblennydd Capel y Plough, a gafodd eu hadfer yn ddiweddar.
Meddai llefarydd ar ran Clarence House: "Y mae'r Tywysog a'r Dduges yn edrych ymlaen at wythnos brysur yn dathlu treftadaeth unigryw Cymru, gan gynnwys Gristnogaeth Geltaidd a gwaith Dylan Thomas. Y mae Eu Huchelderau Brenhinol hefyd yn awyddus i dynnu sylw at lwyddiannau'r Gymru fodern, fel gwaith cynhyrchu'r Raspberry Pi yn Sony ym Mhencoed a'r bwydydd amheuthun a wneir gan gynhyrchwyr crefftus led led y wlad."